Rydych chi yn:  > 

Amgueddfa Cymru

Pawb / £30 / I archebu'ch lle cysylltwch â Sue Clow ar 01974 282530

Gweithdai Rygio

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen (Nodyn. Ar gau Dydd Llun a Dydd Sul Hydref–Mawrth)

Gweithdy fis Hydref: Gwnewch sgarff neu het wlanog a siwmper wlân a'i addurno yn defnyddio technegau rygio. Perffaith ar gyfer mynd am dro mewn gwynt hydrefol.

Gweithdy fis Tachwedd: Gwneud torch a fydd yn para blynyddoedd.

Gweithdy fis Rhagfyr: Cyweithiau llai fel tlysau o flodau ac anrhegion ac addurniadau eraill.

Gweithdy fis Ionawr: Gwehyddu gyda defnyddiau rhacs gan ddefnyddio gwydd begiau, i greu ryg o faint clustog. 

Gweithdy fis Chwefror: Technegau bachu cywrain i greu lluniau a addurniadau i roi ar furiau yn defnyddio defnydd ac edafedd.

Gweithdy fis Mawrth: Bachu 'locer'. Creu matiau bach a phaneli addurniadol gyda gwahanol ddefnyddiau wedi'u bachu trwy ganfas ac wedi'u cadw mewn lle gyda edafedd.