Rydych chi yn:  > 
Pawb / Am ddim

Crefft y Cerfiwr Llwyau Serch

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 26 Mai 2013, 11am - 1pm a 2pm - 4pm

Dewch i gwrdd â dau o’r cerfwyr llwyau serch gorau sy’n hyrwyddo’r grefft dros Gymru a thu hwnt. Mae Siôn Llewellyn o Ben-y-bont ar Ogwr a David Western, yn wreiddiol o Gaerdydd ond bellach yn byw yng Nghanada, yn frwd dros sicrhau fod y traddodiad hynafol hwn yn parhau yn fyw ac egnïol yn ein cymdeithas gyfoes. 

 

Yn ddiweddar, comisynwyd Siôn gan yr Amgueddfa i greu copïau replica o nifer o lwyau yn y casgliadau a bydd rhain ar werth yn ystod y digwyddiad. Bydd David yn gwerthu copïau o’i lyfrau diweddar, History of Lovespoons a Fine Art of Lovespoons sydd yn cynnwys delweddau a chyfeiriadau amryw tuag at lwyau Sain Ffagan.

Galwch draw i siop yr Amgueddfa i'w gweld wrth eu gwaith.