Rydych chi yn:  > 
English
Pawb / Am ddim / Am docynnau e-bostiwch ffotograffau.hanesyddol@amgueddfacymru.ac.uk gan gynnwys eich enw a rhif ffôn.

Nederlands Fotomuseum: Adeiladu Amgueddfa Ffotograffiaeth Genedlaethol

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 2 Mai 2013, 5.45pm (Drysau'n agor am 5.15pm) (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Ystafell Dywyll, Nederlands Fotomuseum

Ystafell Dywyll, Nederlands Fotomuseum.

Yn 2003 ychwanegwyd amgueddfa arall at y myrdd o sefydliadau tebyg yn yr Iseldiroedd, y Nederlands Fotomuseum.

Yn y sgwrs hon bydd yr Athro Frits Gierstberg, Pennaeth Arddangosfeydd y Nederlands Fotomuseum yn Rotterdam, yn siarad am y sialensau a wynebodd yr amgueddfa ers agor, gan gynnwys problemau casglu ar sail project a datblygu rhyngwynebau newydd yn yr amgueddfa.

Bydd hefyd yn trafod ei gyfraniad at ddau gyhoeddiad diweddar ar hanes beirniadol ffotograffiaeth yn yr Iseldiroedd, Dutch Eyes (2007) a The Dutch Photobook (2012).

Am ragor o fanylion ac i archebu eich lle, e-bostiwch ffotograffau.hanesyddol@amgueddfacymru.ac.uk gan gynnwys eich enw a rhif ffôn.

Mae’r ddarlith yn un o gyfres o ddarlithiau sy’n cyd-fynd â phroject mawr gan Amgueddfa Cymru. Nod y project, y medrwyd ei wireddu diolch i rodd sylweddol gan Sefydliad Esmée Fairbairn, yw gweithio ar gasgliadau ffotograffig hanesyddol cyfoethog ac amrywiol yr Amgueddfa.

Mewn partneriaeth ag eCPR sef Canolfan Ewropeaidd dros Ymchwil Ffotograffig Prifysgol Cymru, Casnewydd, bydd y darlithoedd yn adlewyrchu gwaith cyffrous yr Amgueddfa Cymru rhwng 2012 a 2015.

Drysau’n agor am 5.15pm, y ddarlith i ddechrau am 5.45pm.

logo_esmee-fairburn

 

logo_prifysgol casnewydd

 

logo eCPR