Rydych chi yn:  > 
Oedolion / Am ddim / Archebwch wrth gyrraedd

Tu ôl i'r Llenni: Daeareg

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 10 Medi 2013, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Dewch tu ôl i’r llenni yn ein Hadran Ddaeareg i gwrdd â gwyddonwyr yr amgueddfa, dysgu mwy am eu gwaith ymchwil a gweld sut mae mynd ati i ddogfennu’r holl gasgliadau sydd yn eu gofal.

Dewch i weld sut rydym ni’n storio miloedd o gerrig, ffosilau a mwynau. Cewch ymweld â’n labordai hefyd i weld sut rydyn ni’n paratoi ffosilau ac yn eu cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, neu sut rydyn ni’n adnabod cerrig a mwynau.

Bydd cynnwys y teithiau’n amrywio bob mis, felly dewch yn ôl i ddysgu mwy!

Mae’n bosibl y bydd rhai teithiau’n anaddas i ymwelwyr sydd â phroblemau symudedd, e-bostiwch digwyddiadaucaerdydd@amgueddfacymru.ac.uk am gyngor.