Rydych chi yn:  > 
English
Pawb / Am ddim

Casgliadau Preifat - Gweithdy Gwydr Rhyngwladol i Fenywod

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 22 Mehefin–8 Medi 2013, 10am - 5pm

Arddangosfa grŵp o weithiau bychan gan aelodau Gweithdy Gwydr Rhyngwladol y Gwragedd yw Casgliadau Prefat.

Cyfrannodd pob un o’r artistiaid set o ugain gwaith personol. Drwy aildrefnu’r gweithiau crëir cyfres debyg, ond unigryw o un casgliad ar bymtheg. Syniad Sigríður Ásgeirsdóttir, aelod o Wlad yr Iâ, oedd yr arddangosfa a cafodd ei dangos gyntaf yn 2011 ym Mhrifysgol Gwlad yr Iâ, Háskólatorg.

"Enillodd y sioe ym Mhrifysgol Gwlad yr Iâ yn Reykjavik gryn glod, ac mae’r arddangosfa hon o baneli gwydr prydferth yn dod a chelf o bob cwr o’r byd gan wragedd sy’n arbenigo mewn gwaith gwydr pensaernïol i Abertawe," meddai Andrew Deathe, Awdur Oriel.

Grŵp o artistiaid gwydr cyfoes yw Gweithdy Gwydr Rhyngwladol y Gwragedd sy’n cyfarfod bob dwy neu dair mlynedd i arddangos, a chael profiad o’r wlad sy’n eu croesawu. Maent wedi cyfarfod yng Ngwlad yr Iâ, Cymru, Iwerddon, Awstria, Japan, Canada yr UDA, Seland Newydd ac Awstralia. Yn 2008 dathlodd y Gweithdy ei ben-blwydd yn ugain oed gyda ‘Gathering Light’, arddangosfa deithiol fawr a ymwelodd â Lerpwl, Chartres ac Abertawe, lle y denwyd 60,000 o ymwelwyr i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Rhestr yr artistiaid

Sigríður Asgeirsdóttir – Gwlad yr Iâ; Doreen Balabanoff – Canada; Chris Bird-Jones – Cymru; Ginger Ferrell – UDA; Marie Foucoult-Phipps – Ffrainc; Amber Hiscott – Cymru; Catrin Jones – Cymru; Cornelia König – Awstria; Linda Lichtman – UDA; Mary Mackey – Iwerddon; Ellen Mandelbaum – UDA; Christine Triebsch – Yr Almaen; Helga Reay-Young – Yr Almaen; Holly Sanford – Seland Newydd; Sachiko Yamamoto – Japan; Yoshi Yamauchi – Japan/yr Almaen