Rydych chi yn:  > 
English
Teuluoedd / Am ddim / Galw heibio

Archwilwyr Amgueddfa Canolfan Ddarganfod Clore

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 3 Awst–1 Medi 2013, 11am - 4pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Bob wythnos yn ystod gwyliau'r haf byddwn yn archwilio arddangosiad gwahanol yn orielau'r Amgueddfa.

Dewch draw i ddysgu mwy am y gwrthrychau sydd i'w gweld a chreu rhywbeth i fynd adre gyda chi i'ch atgoffa o'ch gwybodaeth newydd!

3 – 9 Awst Pysgota dros y Dyfodol
Dewch i weld beth allwch chi ei wneud i amddiffyn y pysgod yn ein moroedd a chreu celf pysgodlyd i fynd adre gyda chi.

10 – 16 Awst Mughal India
Cyfle i greu eich stori eich hun yn seiliedig ar yr arddangosfa.

17 – 23 Awst Madfall Wib
Dewch i ddysgu mwy am pterosoriaid a chreu madfall sy'n gallu hedfan i fynd adre gyda chi.

24 Awst – 1 Medi Celf Bop
Cyfle i greu clawr record gan ddefnyddio gweithiau celf y chwedegau'n ysbrydoliaeth.

Sylwer: rydyn ni ar gau bob dydd Llun.