Rydych chi yn:  > 
English
Oedolion / Am ddim / Rhaid archebu lle. Ffôn: cost safonol (0300) 111 2 333

Taith ar Gwch y Black Prince

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 29 Awst 2013, 6pm

Y Black Prince

Dim Lle Ar Ôl

Dewch i fwynhau mordaith hanesyddol gyda'r nos ar hyd afon Tawe gydag Ymddiriedolaeth Gychod Cymuned Abertawe i gyd-fynd â'n harddangosfa haf ar gamlesi.

Bydd y daith a'r sgwrs yn gyfle i deithwyr ddilyn llwybr miloedd o longau fyddai wedi cario glo a chopr y Chwyldro Diwydiannol flynyddoedd yn ôl.

Man cyfarfod: y Black Prince, sydd wedi'i angori tu ôl i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau.

Mae Taith ar Gwch y Black Prince hefyd yn digwydd ar 5 a 12 Medi.

Dibynnol ar y tywydd. Bydd bar ar y llong (rhaid talu).