Rydych chi yn:  > 

Amgueddfa Cymru

Oedolion / Am ddim / Archebwch wrth gyrraedd

Tu ôl i'r Llenni: Celf

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 16 Gorffennaf 2013, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

Golwg Fanwl ar Arian Cyfoes

Gyda Rachel Conroy, Adran Gelf.

Dewch i gyfarfod â Rachel Conroy, Curadur Cynorthwyol Celfyddyd Gymhwysol am gyfle i drin a thrafod gweithiau arian cyfoes. Mae arian yn ddeunydd hardd iawn ac yn hynod o gyffyrddadwy.

Bydd y sesiwn yn cynnwys gwrthrychau gan wneuthurwyr megis Miriam Hanid, Hiroshi Suzuki ac Abigail Brown. Byddwn yn trafod ysbrydoliaeth a thechnegau'r artistiaid wrth fynd ati i greu'r gweithiau celf hynod hyn.

Mae'n bosibl y bydd rhai teithiau'n anaddas i ymwelwyr sydd â phroblemau symudedd, e-bostiwch digwyddiadaucaerdydd@amgueddfacymru.ac.uk am gyngor.