Rydych chi yn:  > 
English
Arddegwyr / Am ddim / Rhaid archebu lle. Ffon: cost safonol (0300) 111 2 333

'Shabby Chic' i Arddegwyr: Bagiau Colur a Drychau

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 10 Awst 2013, 1.30pm

Ymunwch â'r dylunydd ffasiwn gwyrdd Helen Stew ar gyfer ein cyfres o weithdai ailgylchu wythnosol dros yr haf i droi hen betheuach yn ategolion deniadol.

Yn y sesiwn yma byddwn yn troi hen ddefnydd ac oelcloth yn fag colur a drych llaw hyfryd. Mae gennym ddigonedd o ddewis o rubanau, botymau ac ategolion i wneud bag a drych gwych.

Darperir deunyddiau, croeso i bawb o bob gallu.

Mae'r gweithdy hwn ar gyfer pobl yn eu harddegau yn bennaf.