Rydych chi yn:  > 
Pawb / £25 y pen / Galwch (029) 2057 3070

Gweithdy Brandon Mably: Cynllun Persian Poppy

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 2 Ebrill 2013, 10am - 4pm (Nodyn. Ar gau Dydd Llun a Dydd Sul Hydref–Mawrth)

[delwedd: ]

Cyfle unigryw i gymryd rhan mewn gweithdy arbennig gan Brandon Mably, dylunydd gweu ac awdur o fri.

Mae Brandon yn cydweithio â’r dylunydd tecstilau adnabyddus Kaffe Fassett, a bydd y gweithdy yn cyd-fynd ag Arddangosfa o Weuwaith Kaffe Fassett yn yr Amgueddfa Wlân.

Mae’r ddau yn adnabyddus am ddylunio cynlluniau patrymog, lliwgar a thrawiadol a bydd y gweithdy yn gyfle i gyfranogwyr hogi eu defnydd o liw a magu'r hyder i gynllunio’u patrymau lliw eu hunain yn y dyfodol.

Rhaid archebu lle a thalu wrth archebu.

Dylai pob cyfranogwr ddod â nodwyddau gwau (o’r maint sydd fwyaf cyffyrddus iddyn nhw, awgrymir US 6-8), siswrn, ychydig o edau mewn o leiaf 6 lliw golau/llachar a 6 lliw tywyll/cyfoethog o leiaf, papur a phensil (dewisol), camera (dewisol).