Rydych chi yn:  > 
English
Teuluoedd / Am ddim

Cyffro Cerrig!

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 23 Chwefror 2013, 11am — 3pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Ian Stewart
Ian Stewart

Mae'n bleser gan Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gynnal parti pen-blwydd Cymdeithas Ddaearegol De Cymru yn 21 oed gyda gwledd o ddaeareg.

Ymwelwch â'r Brif Neuadd ar gyfer arddangosfeydd daearegol a bydd cyfle cael cip tu ôl i lenni'r Adrad Daeareg i gwrdd â gwyddonwyr yr amgueddfa, gan ddysgu mwy am eu gwaith ymwchil a gweld sut mae mynd ati i ddogennu'r holl gasgliadau sydd yn eu gofal.

11am

Darlith Arbennig gyda'r Athro Iain Stewart (cyflwynydd Volcano Live, How to grow a planet, Men of Rock a How Earth Made Us), Darlithfa Reardon Smith, archebwch wrth gyrraedd.

1 a 2pm

Teithiau tu ôl i'r llenni yn yr Adran Ddaeareg. Archebwch wrth gyrraedd, nifer cyfyngedig o lefydd. Sylwer y gall y teithiau yma fod yn anaddas i bobl â phroblemau symudedd. Anaddas i blant dan 8.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.geolsoc.org.uk/geologyrocks13 neu anfonwch e-bost i swales.rg@geosoc.org.uk.