Rydych chi yn:  > 
Pawb / Am ddim

Shirley Jones: 30 Mlynedd o Wasg Red Hen

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 20 Ebrill–30 Mehefin 2013 (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Nocturne for Wales (Wasg Red Hen, 1987), Glofa Cwmparc, Cwm Rhondda © Shirley Jones

Shirley Jones, Nocturne for Wales (Wasg Red Hen, 1987)
Glofa Cwmparc, Cwm Rhondda © Shirley Jones

Llyfrau artistiaid gan yr artist Cymreig rhyngwladol ei bri.

Artist, awdur ac argraffydd yw Shirley Jones. Am 30 mlynedd yn ei gwasg Red Hen Press ym Mhowys, mae wedi bod yn creu argraffiadau cyfyngedig o lyfrau argraffwaith sy’n cyflwyno barddoniaeth a rhyddiaith law yn llaw ag ysgythriadau a mesotintiau.

Mae pob un o lyfrau Jones yn gysyniad cyflawn – rhoddir yr un ystyriaeth i’r dewis o bapur a ffurfdeip, asio’r testun a’r delweddau a phwysigrwydd y rhwymiad, ac a roddir i’r creadigrwydd gweledol a llenyddol.

Mae ei gwaith wedi ennyn canmoliaeth beirniaid ac fe’i gesglir ym mhob cwr o’r byd.