Rydych chi yn:  > 
English
Oedolion / Am ddim / Ebostiwch: ffotograffau.hanesyddol@amgueddfacymru.ac.uk

Krupp: Ffotograffiaeth a Chreu Archif Cwmni

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 6 Mawrth 2013, 5.45pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Turbinentrommel im Pressbau, Ffatri Krupp, Essen

Turbinentrommel im Pressbau, Ffatri Krupp, Essen
7 Ionawr, 1911
Trwy garedigrwydd Historisches Archif Krupp, Essen.

Darlith gyda'r Hwyr Esmée Fairbairn

Yn y sgwrs hon, bydd yr Athro Ute Eskildsen, cyn Gyfarwyddwr a Phennaeth Ffotograffiaeth Amgueddfa Folkwang, Essen, yn archwilio agweddau dogfennol ar archif Krupp ac yn olrhain sut y cai rhai delweddau eu defnyddio a'u dosbarthu.

Nid yw ffotograffau o'r fath fyth yn ddogfennau syml o ddiddordeb diwydiannol yn unig. O'u harchwilio'n fanylach, gellir gweld gwerthoedd ac ystyron eraill i ffotograffau, maent yn fynegiant diwylliannol yn aml ar adegau anodd mewn hanes.

Yn seiliedig ar dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Dyffryn Ruhr — a'r tebygrwydd amlwg â diwydiant cymoedd de Cymru — mae'r ddarlith yn un o gyfres o ddarlithiau sy'n cyd-fynd â phroject mawr gan Amgueddfa Cymru.

Nod y project, y medrwyd ei wireddu diolch i rodd sylweddol gan Sefydliad Esmée Fairbairn, yw gweithio ar gasgliadau ffotograffig hanesyddol cyfoethog ac amrywiol yr Amgueddfa.

Mewn partneriaeth ag eCPR sef Canolfan Ewropeaidd dros Ymchwil Ffotograffig Prifysgol Cymru, Casnewydd, bydd y darlithoedd yn adlewyrchu gwaith cyffrous yr Amgueddfa Cymru rhwng 2012 a 2015.

Am ragor o fanylion ac i archebu eich lle, e-bostiwch ffotograffau.hanesyddol@amgueddfacymru.ac.uk.

Drysau'n agor am 5.15pm, y ddarlith i ddechrau am 5.45pm.

logo_esmee-fairburn
logo_prifysgol casnewydd
logo eCPR