Rydych chi yn:  > 
Arddegwyr / Am ddim

Ffilm i’r Arddegwyr yn yr Amgueddfa: Twilight (12, 2008)

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 9 Mehefin 2013, 2pm

[delwedd: ]

Ymunwch â ni am ffilm arbennig i’r arddegwyr, Twilight, yn seiliedig ar y nofel boblogaidd gan Stephenie Meyer am gariad gwaharddedig rhwng fampir a pherson.

Mae Bella Swan (Kristen Stewart) wastad wedi bod ychydig yn wahanol, a dyw hi erioed wedi poeni am blesio’r merched ffasiynol eraill yn yr ysgol.

Ar ôl i’w mam ailbriodi, mae Bella yn symud i fyw gyda’i thad ym mhentref glawog a diflas Forks. Ond yn ei hysgol newydd, dyma Bella’n cwrdd ag Edward Cullen (Robert Pattinson) sy’n olygus ac yn ddirgel, bachgen sy’n wahanol i’r gweddill.

Mewn dim amser, mae’r ddau mewn cariad dros eu pen a’u clustiau, ond mae’n gariad rhyfedd, gwahanol.

Mae Edward yn gryf fel llew ac yn gyflymach na mellt, a dyw e ddim wedi heneiddio diwrnod ers 1918… ydy, mae Edward yn wahanol iawn i’r gweddill...