Rydych chi yn:  > 
Pawb / 30 / Rhaid archebu lle. Ffoniwch Sue Clow ar 01974 282530 neu e-bost: sue@ragartstudios.com

Gweithdy Blodau Rygiau Rhacs a Garlantau'r Gwanwyn gyda Sue Clow

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 9 Chwefror 2013, 11am - 4.30pm (Nodyn. Ar gau Dydd Llun a Dydd Sul Hydref–Mawrth)

Yn y gweithdy gwych hwn ar drothwy dydd San Ffolant a’r Gwanwyn, bydd cyfle i ddysgu sut i ddefnyddio technegau rygiau rhacs a garlantau i wneud tlysau siâp calonnau a blodau hardd, a thorchau a garlantau addurnol.

Gellir defnyddio’r technegau yma i addurno pob math o decstilau, fframiau lluniau ac addurniadau gwallt. Dyma ffair o liw a gweadau ar gyfer y Gwanwyn.

Cost: £30. Dim mwy na 15 person. Darperir yr holl ddeunyddiau ac offer, ond ceisiwch ddod â siswrn gyda chi.

I archebu eich, ffoniwch Sue ar 01974 282530 neu e-bostiwch sue@ragartstudios.com.

Ewch i'r gwefannau am ragor o ysbrydoliaeth: www.ragartstudios.com, www.zalingai.co.uk a www.kaotickittus.co.uk

Dilynwch Sue ar Facebook hefyd: www.facebook.com/RagArtWorkshops