Rydych chi yn:  > 
Oedolion / Am ddim / Archebwch wrth gyrraedd

Sgwrs Amser Cinio: Archaeoleg

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 16 Ionawr 2013, 1.05pm (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)

O dywod i hylif hynod oer math o alcemi: gwydr yn oes y Rhufeiniaid

Gyda Dr Denise Allen, Isgyfarwyddwr, Andante Travels.

Mae gwydr yn ddeunydd prydferth, amlddefnydd a dirgel nid ywn solid mewn gwirionedd ond hylif tra-oeredig ac nid yw gwyddonwyr yn deall natur y deunydd yn iawn hyd heddiw.

Caiff ei greu o gynhwysion rhad a chyffredin tywod a soda naturiol gaiff eu gweddnewid yn ddeunydd tryloyw ac yn ffurfiau di-ri. Meistrolodd y Rhufeiniaid dechnegau masgynhyrchu gwydr, gan greu llestri gwydr chwyth oedd o fewn cyrraedd i bawb.

Denise Allen, sydd wedi bod yn astudio gwydr Rhufeinig ers nifer o flynyddoedd, fydd yn esbonio sut y datblygodd y diwydiant gwydr cynnar ac at beth y cai ei ddefnyddio.

Astudiodd Denise archaeoleg ym Mhrifysgol Caerdydd cyn dilyn cwrs PhD yn chwilio am dystiolaeth o wydr a diwydiant gwydr yn y Brydain Rufeinig.

Ers hynny, mae wedi ysgrifennu adroddiadau arbenigol di-ri ar gyfer safleoedd fel Silchester ar Baddondai Rhufeinig yng Nghaerllion, yn ogystal llyfr ir cyhoeddwyr Shire, Roman Glass in Britain. Bellach maen Ddirprwy Gyfarwyddwr Andante Travels syn arbenigo mewn teithiau ir Byd Clasurol a thu hwnt.