Rydych chi yn:  > 
English
Pawb / Tocynnau o flaen llaw: Oedolion £8/Gostyngiad £6 (yn gynnwys tâl trafod). Mae nifer fach o docynnau ar gael yn yr Amgueddfa ar y diwrnod £10 arian parod neu siec / Tocynnau ar gael o'n Siop Ar-lein neu drwy y Theatr Newydd: (029) 2087 8889

Cyngherddau Coffi Caerdydd 2012-13

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen (Mae Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar agor ar y rhan fwyaf o Wyliau Banc, gwiriwch cyn ymweld i wneud yn siŵr y bydd yr Amgueddfa ar agor.)
Darlithfa Reardon Smith
Darlithfa Reardon Smith
Triawd Erato Piano
Triawd Erato Piano
Pedwarawd Dante
Pedwarawd Dante
Pedwarawd Brodowski
Pedwarawd Brodowski

Bore Sul Perffaith

Cyngherddau Coffi Caerdydd yn Theatr Reardon Smith (11.30am)

Ymunwch â ni ar fore Sul am gyngerdd cerddoriaeth siambr, gyda gwydryn o sieri, sudd neu goffi i ddilyn.

Beth am fanteisio ar ostyngiad o 10% ar ginio dydd Sul blasus ym Mwyty Oriel?

 

10 Chwefror 2013 - Triawd Erato Piano

10 Mawrth 2013 - Di Xiao (Piano)

14 Ebrill 2013 - Gabrielle Painter (Feiolin) Evgenia Startseva (Piano)

19 Mai 2013 - Ensemble Farthingale

 

Diolch i haelioni Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Siambr CAVATINA, mae lle am ddim i bawb o 8-25 oed mewn addysg lawn amser, heblaw am gyngherddau Chwerfror a Mawrth.

Cadwch lygad am gyfres newydd sbon o berfformiadau gan gerddorion ifanc yn orielau celf yr Amgueddfa yn y prynhawn wedi Cyngherddau Coffi Caerdydd.

Rydyn ni’n falch o gael gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Cerddoriaeth Rhondda Cynon Taf i roi cyfle i gerddorion ifanc berfformio yn yr Amgueddfa ar yr un diwrnod â Chyngherddau Coffi Caerdydd.

Datblygir Cyngherddau Coffi Caerdydd mewn partneriaeth â CwpanAur gyda chymorth Ymddiriedolaeth Cerddoriaeth Siambr CAVATINA, Cymdeithas Gwestywyr Caerdydd a DHB Ltd.



Logo Cwpan Aur