Rydych chi yn:  > 

Amgueddfa Cymru

Pawb / Am ddim

Sioe Trenau Bach

Mae'r digwyddiad hyn wedi gorffen 27 Chwefror–2 Mawrth 2014, 10am - 4pm

[delwedd: ]

[delwedd: ]

27 Chwefror - 2 Mawrth 2014

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Lechi Cymru dros yr hanner tymor am ddiwrnod o godi stêm yn y Sioe Trenau Bach.

Bydd digonedd o weithgareddau i’w mwynhau gan gynnwys reidiau am ddim i blant ar injans stêm a threnau bychain. Bydd arddangosiadau, sgyrsiau dyddiol, ac amrywiaeth o injans a threfniannau o bob lliw a llun yn cael eu harddangos – o injans lled 00mm hyd at 32mm. A chofiwch ddod â’ch trenau lled 00 eich hun i’w defnyddio ar y trac prawf i blant!

Eleni hefyd bydd cyfle i fwynhau sesiynau stori ac arddangosiadau o'r inclen cludo llechi ym Mharc Padarn.

Dyma gyfle gwych i bobl o bob oed fwynhau arddangosiadau gweithiol - paradwys i bawb sydd â diddordeb mewn rheilffyrdd, a diwrnod allan ardderchog i’r teulu cyfan!

ffilm-trenau-bach.flv