Rydych chi yn:  > 
English
Pawb / Am ddim

Sioe Trenau Bach

1922 Chwefror 2015, 10am - 4pm

19 - 22 Chwefror  2015

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Lechi Cymru dros yr hanner tymor am ddiwrnod o godi stêm yn y Sioe Trenau Bach.

Bydd digonedd o weithgareddau i’w mwynhau gan gynnwys reidiau am ddim i blant ar injans stêm a threnau bychain. Bydd arddangosiadau, sgyrsiau dyddiol, ac amrywiaeth o injans a threfniannau o bob lliw a llun yn cael eu harddangos – o injans lled 00mm hyd at 32mm. A chofiwch ddod â’ch trenau lled 00 eich hun i’w defnyddio ar y trac prawf i blant!

Eleni hefyd bydd cyfle i fwynhau sesiynau stori ac arddangosiadau o'r inclen cludo llechi ym Mharc Padarn.

Dyma gyfle gwych i bobl o bob oed fwynhau arddangosiadau gweithiol - paradwys i bawb sydd â diddordeb mewn rheilffyrdd, a diwrnod allan ardderchog i’r teulu cyfan!