Rydych chi yn:  >   > 

Cynaliadwyedd

[delwedd: ]

Creu Amgueddfa Cynaliadwy

Ein nod yw datblygu arferion cynaliadwy wrth weithredu ein saith amgueddfa ac i hyrwyddo byw'n gynaliadwy drwy ein digwyddiadau a'n rhaglenni addysg.

Mae cadw trysorau'r Genedl ac agor ein drysau i 1.6 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn yn defnyddio llawer o ynni. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf rydyn ni wedi cymryd camau mawr i leihau ein hôl troed carbon drwy fuddsoddiad ariannol ac ymroddiad staff.

Heddiw, mae ein saith amgueddfa i gyd wedi derbyn Gwobr Draig Werdd lefel dau neu dri fel cydnabyddiaeth o'n rheoli amgylcheddol effeithiol. Rydym yn gweithio'n agos â'r Ymddiriedolaeth Garbon hefyd ac wedi rhoi eu hargymhellion ar waith yn dilyn cyfres o asesiadau ynni. Mae cynlluniau i'r dyfodol yn cynnwys Technoleg Carbon Isel, bod yn rhan o Ymrwymiad Lleihau Carbon y Llywodraeth a bod yn rhan o ymgyrch 10:10.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.