Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Profiad gwaith

Mae Amgueddfa Cymru yn cynnig profiad gwaith i fyfyrwyr 14-18 oed. Mae lleoliadau ar gael yn yr adrannau canlynol:

  • Archeoleg a Niwmismateg*
  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
  • Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol*
  • Adeiladau
  • Cadwraeth*
  • Dogfennaeth
  • Ystadau
  • Digwyddiadau
  • Cyllid
  • Daeareg
  • Uned yr Adeiladau Hanesyddol
  • Adnoddau Dynol
  • TGCh
  • Addysg (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd)
  • Addysg (Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru)†
  • Llyfrgell
  • Marchnata
  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru
  • Amgueddfa Lechi Cymru
  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
  • Amgueddfa Wlân Cymru
  • Ffotograffiaeth
  • Cyhoeddiadau
  • Manwerthu
  • Bywyd Gwerin†
  • Gwasanaethau i ymwelwyr (Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd)
  • Gwasanaethau i ymwelwyr (Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru)†

* Myfyrwyr chweched dosbarth yn unig
† Cymraeg yn hanfodol

Sut i ymgeisio

Mae'r broses ymgeisio yn cael ei gweinyddu gan Gyrfa Cymru Mae gan Gyrfa Cymru gronfa ddata o'r holl leoliadau posibl a gallwch edrych arni yn yr ysgol neu yn eich canolfan yrfaoedd leol.

Rhaid archebu lleoliadau ar y gronfa ddata a bydd eisiau i chi lenwi ffurflen gais (ar gael yn eich ysgol neu drwy Gyrfa Cymru). Bydd yr adran berthnasol yn penderfynu a allant eich derbyn ar y dystiolaeth a rowch yn y ffurflen gais.

Cofiwch bydd angen o leiaf chwe wythnos o rybudd cyn i chi gychwyn ar unrhyw leoliad ac nad oes sicrwydd o gael lleoliad nes bod cadarnhad wedi dod oddi wrth Amgueddfa Cymru. Oherwydd y diddordeb mawr mewn gwneud profiad gwaith yn Amgueddfa Cymru yn anffodus ni allwn gynnig lleoliad i bawb. Mae misoedd yr haf yn arbennig o boblogaidd gyda gormod o bobl yn gofyn am le. Mae ffactorau eraill hefyd yn cyfyngu ar y lleoliadau sydd ar gael megis amser y staff a hyfforddiant.

Danfonwch eich cwestiynau am brofiad gwaith at Elaine Davies, Cydlynydd Profiad Gwaith.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.