Rydych chi yn:  >   >   >   > 
English

Prentisiaethau

O bryd i'w gilydd gallwn gynnig prentisiaethau gyda'n staff arbenigol mewn ystod o rolau ymarferol megis gyda'r saer coed neu'r saer maen.

Fel arfer mae cynlluniau prentisiaeth yn golygu gwaith partneriaeth gyda darparwyr hyfforddiant ffurfiol. Bydd prentisiaid yn gorfod cwblhau cyfnod ffurfiol o hyfforddiant dros nifer o flynyddoedd fel rheol drwy wneud cwrs coleg ac ymarfer y sgiliau maent wedi'u dysgu yn y gweithle.

Edrychwch ar yr adran hon o'r wefan ar gyfer cyfleon cyfredol neu gallwch gysylltu â'n Adran Adnoddau Dynol.