Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Lleoli Gwaith

Mae lleoli gwaith yn gyfle gwych i ennill profiad wrth weithio, ystyried dewis gyrfa, dangos blaengaredd a datblygu sgiliau ymhellach. Bydd Amgueddfa Cymru yn trefnu nifer penodol o leoliadau gwaith bob blwyddyn, ac oherwydd y galw uchel byddwn yn hysbysebu pob lleoliad ar dudalen Cyfleon Lleoli Cyfredol. Sail cais llwyddiannus fydd cymhathiad amlwg rhwng y project a nod ac astudiaethau’r ymgeisydd. Gyda saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru, gallwn gynnig gwaith lleoli amrywiol mewn Archaeoleg, Celf, Cadwraeth, Daeareg, Hanes a mwy.

Caiff gwaith lleoli ei drefnu am gyfnod amser penodol sy’n galw am ymrwymiad amser gan yr ymgeisydd, yn ystod oriau swyddfa dydd Llun i ddydd Gwener fel arfer. Rhaid i ymgeisydd fod yn 18 mlwydd oed ac nid oes uchafswm oedran.

Nid oes Lleoliadau Gwaith ar gael ar hyn o bryd, beth am edrych ar ein tudalennau Gwirfoddoli am syniadau a chyfleon. Gallwch chi hefyd ddilyn y diweddaraf am gyfleon newydd ar Twitter.

Stonewall - Hyrwyddwyr Amrywiaeth
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.