Rydych chi yn:  >   >   >   > 

Gwirfoddoli

[delwedd: Gwirfoddoli]

Drwy wirfoddoli, gallwch chi wneud cyfraniad gwerthfawr i Amgueddfa Cymru. Gall gwirfoddolwyr ymwneud ag amrywiaeth o brojectau ym mhob un o saith amgueddfa genedlaethol Cymru, gan daflu goleuni newydd ar ein casgliadau, ein helpu â gweithgareddau addysg neu i adeiladu rhai o’n adeiladau hanesyddol hyd yn oed.

Oherwydd y galw uchel, rydym yn hysbysebu pob rôl wirfoddol i gadw’r broses mor deg â phosibl. Edrychwch ar y Cyfleon Cyfredol i weld pa rolau sydd ar gael ar hyn o bryd. Cofiwch ddarllen y disgrifiad rôl yn drylwyr, yn enwedig yr adran Gofynion ac Ymrwymiad. Pan fyddwch chi’n penderfynu eich bod am ymuno â’r gymuned wirfoddoli, llenwch y Ffurflen Gais a’i dychwelyd at gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk.

Rhaid i bod ymgeisydd fod dros 18, ond nid oes uchafswm oedran.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n Cydlynydd Gwirfoddolwyr drwy e-bostio gwirfoddoli@amgueddfacymru.ac.uk neu ffonio (029) 2057 3419.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.