Peirianwaith Hanesyddol

Mae’r Amgueddfa’n cynnwys amrywiaeth eang o beirianwaith hanesyddol a ddefnyddid ym melinau gwlân Cymru.
O welleifiau llaw elfennol i offer modern a drawsffurfiodd y diwydiant, gallwch weld rhai o’r peiriannau hyn ar waith.
Defnyddir yr heislan trydan - y chwalwr neu’r cythraul - i ddatgymalu gwlân gyda’i ddrwm troi mawr â sbigynnau dur i agor y gwlân ar gyfer ei gribo.

Cynhyrchwyd yr heislan tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg (dyfeisiwyd fersiynau wedi’u pweru yn y ddeunawfed ganrif). Cyn hynny gwnaed y gwaith â llaw, trwy daro’r cnu â ffyn helyg.
Daw’r peiriant cribo sydd yn yr Amgueddfa o felin wlân Abaty, Castell Nedd. Fe’i dyfeisiwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac fe’i defnyddiwyd i baratoi gwlân ar gyfer ei nyddu. Mae’r peiriant cribo’n cribo’r gwlân wedi iddo gael ei heislanu, gan baratoi’r ffibrau i’w nyddu.
Roedd gan Felinau Cambrian, Dre-fach Felindre bedwar peiriant cribo 20 metr o hyd ac yn pwyso 10 tunnell yr un. Roeddynt yn hanfodol ar gyfer masgynhyrchu gan fod gwlân wedi’i gribo’n sâl yn torri wrth ei nyddu, yn gwastraffu amser ac arian, ac yn gostwng safon yr edafedd a’r brethyn a wnaed ohono.

Roedd yr Olwyn Fawr sydd ar ddangos yn gyffredin erbyn y 1300au. Roedd angen sefyll i’w gweithredu, ac roeddynt yn gymharol rhad i’w prynu fel bod hyd yn oed teuluoedd tlawd yn gallu fforddio eu prynu. Yn achos y droedlath, neu Olwyn Ynys Môn, dyfais ddiweddarach a drutach, gallai’r nyddwr weithio wrth eistedd.
Mae un o fulod nyddu gwreiddiol Melinau Cambrian yn yr Amgueddfa heddiw. Fe’i defnyddiwyd i nyddu trwy gydol oes aur y busnes ac ymlaen i’r 1960au.
Gallwch hefyd weld:
Ar gyfer cribo, nyddu a dirwyn
- Dirwynydd yr edafedd – troi edafedd yn genglau neu beli
- Ffrâm nyddu - nyddu’r gwlân yn edafedd
- Dirwynydd edafedd yr anwe - dirwyn edau o’r côn i’r werthyd ar gyfer nyddu
Ar gyfer ystofi, gwehyddu a gorffennu
- Gwŷdd llaw, gwŷdd Dobcross, gwŷdd Butterworth a Dickinson – gwehyddu’r edau’n frethyn
- Gwŷdd troedlath Hattersley - gwehyddu brethyn lled cul
- Gwŷdd Dobcross 90”– gwehyddu brethyn
- Peiriant codi ceden - codi’r geden i gael gorffeniad meddal
- Trowasgwr mawr (Wuzzer) – tynnu dŵr o’r brethyn, fel peiriant sychu dillad
- Golchwr a chafn hidlo – Diseimio a golchi’r brethyn
- Peiriant pannu – diseimio, golchi a chrebachu’r brethyn
- Deintir – sychu’r brethyn wrth ei gario trwy gyfres o bibau stêm poeth
- Peiriant codi ceden - codi’r geden i greu gorffeniad meddal
- Peiriant rholio a phlygu – rholio’r brethyn, neu ei blygu’n bletiau
- Gwasg Stêm – defnyddid i greu gorffeniad llyfn
- Gwasg boeth – rhoi gorffeniad llyfn i siolau
- Gwasg oer – dal y wasg i mewn nes bodd y siolau’n oeri

