Partneriaethau Busnes
Mae Amgueddfa Cymru'n fyd-enwog am gyfoeth ein casgliadau amlddisgyblaeth. Mewn saith amgueddfa ledled Cymru mae'r amrywiaeth eang o bynciau a gweithgareddau yn denu dros 1.2 miliwn o ymwelwyr y flwyddyn unig.
Rydyn ni'n gweithio gyda chwmniau o bob maint i feithrin partneriaethau cadarn a hirhoedlog sydd yr un mor fanteisiol i'r naill ochr a'r llall. Gallwn eich helpu chi i:
- wneud brandiau'n fwy adnabyddus
- gynyddu gwerthiant
- gynnig anogaeth a chyfleoedd unigryw i'ch staff a'ch cwsmeriaid
- ddylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- ddarparu croeso unigryw a dethol.
Yr un pryd, gallwch elwa o gysylltiadau cyhoeddus cadarnhaol drwy roi cymorth i sefydliad sy'n enwog drwy'r byd i gyd.
Mae amrywiaeth ac amryfalwch ein casgliadau'n cynnig amrediad o gyfleoedd heb eu hail ar gyfer eich busnes, gan gynnwys:
- arddangosfeydd dros dro
- gweithgareddau addysg
- rhaglenni yn y gymuned
- arddangosfeydd parhaol
- datblygiadau cyfalaf
- caffael gweithiau newydd.
Mae ein Tîm Datblygu yn hynod brofiadol wrth adnabod cyfleoedd sy'n cyfateb i anghenion busnesau ac wrth lunio rhaglenni creadigol i'ch cynorthwyo i gyflawni amcanion eich busnes.
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Claire Davies ar (029) 2057 3184, neu ebostiwch Claire Davies