Storïwyr

Kate Davies (1892-1980)
Ardwyn, Maes-y-meillion, Pren-gwyn, Llandysul, Ceredigion.
Ganed yn Lodge Berthlwyd, Pren-gwyn. Gwraig tŷ ddiwylliedig iawn, wrth ei bodd yn adrodd hen hanesion a storïau ac yn difyrru plant a chymdogion. Bu'n cystadlu mewn eisteddfodau lleol ar lenyddiaeth, a chyhoeddodd gyfrol o'i phrydyddiaeth: Cerddi Kate Davies (Llandysul, 1946), a chyfrol o'i hatgofion: Hafau fy Mhlentyndod ym Mhentref Pren-gwyn (Llandysul, 1970). Hi hefyd oedd awdur y gyfrol: Canrif o Addysg Gynradd yn Hanes Ysgol Tre-groes, 1878-1978 (Llandysul, 1978). Yr oedd ei thad, Daniel Thomas, yn frawd i Thomas Thomas (Sarnicol), awdur Chwedlau Cefn Gwlad (1944).
Storïau a gyflwynwyd:
- Lewisiaid Dre-fach Felindre a'r Crochan o Aur yn y Domen Dail
- Stori Siôn a Siân a'r Fuwch yn Driflo
- Stori Twm a Siôn a Dai a'r Tri Llo Coch







