Storïwyr

Lewis T Evans (1882-1975)
Seler, Y Gyffylliog, sir Ddinbych.
Ganed yn Nhy'n-y-gilfach, Cefn Brith, Plwyf Cerrigudrudion, sir Conwy. Bu'n was fferm, yn dyddynnwr, yn chwarelwr, yn gipar ac yn goedwigwr. Roedd hefyd yn fardd galluog ac yn gynheilydd traddodiad nodedig. Cofnodwyd oddeutu 400 o'i storïau ar dâp gan Amgueddfa Werin Cymru yn ystod 1964-74. (Am wybodaeth bellach parthed y storïwr, gweler y nodiadau i'r stori: 'Robin Ddu a'i Frodyr'.)
Am wybodaeth bellach, gweler y nodiadau i stori 'Robin Ddu a'i Frodyr.'
Storïau a gyflwynwyd:
- Ffermwr yn Gwneud Gwaith ei Wraig
- Pwy yw'r Meistr - y Gŵr ynteu'r Wraig?
- Robin Ddu a'i Frodyr
- Robin y Llongwr a Gwraig Tafarn y Brown Cow
- Tri Brawd yn Gwneud eu Ffortiwn
- Trysor Tyddyn Cwtyn y Ci
- Y Crëyr Glas, y Gath a'r Fiaren
- Y Dyn Gwyn a Briododd Ddynes Ddu
- Y Tri Llanc Direidus a'r Tafarnwr







