Storïwyr

Cassie Davies (1898-1988)
Cwm Tudur, Tregaron, Ceredigion
Ganed yng Nghae Tudur, fferm fechan fynyddig ym Mlaen Caron, ger Tregaron. Bu'n Ddarlithydd yng Ngholeg Addysg y Barri, 1923-1938, yna'n Arolygwr Ysgolion (gyda gofal arbennig am y Gymraeg), 1938-58. Yr oedd yn adnabyddus fel cynhyrchydd dramâu a rhaglenni nodwedd ac am ei dawn lafar i ddifyrru cynulleidfaoedd ar lwyfan ac ar y radio.
Storïau a gyflwynwyd:
- Dafydd Morgan, Pant-y-craf, yn Cael ei Wasgu i'r Clawdd gan Angladd
- Rhoi Siwgwr Mewn Te yn Sir Forgannwg, Sir Gâr a Sir Aberteifi
- Stori'r Hen Wraig Fach a'r Oen







