Storïwyr

Thomas Davies (1901-82)
48 Erw Goch, Waunfawr, Aberystwyth.
Ganed ar fferm Treale, Plwyf Pen-boyr, sir Gaerfyrddin. Bu yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin, ac yn brifathro ysgolion cynradd yn Llangeler, sir Gaerfyrddin; Llanfihangel-yng-Ngwynfa, sir Drefaldwyn; a Llanfihangel Cwm Du, sir Frycheiniog. Awdur cyfrol o atgofion Yn Fore yn Felindre (Llandysul, 1966).
Storïau a gyflwynwyd:
- Claddu'r Morwr o Wlad Bell
- Ewyllys y Ffermwr a'i Dri Chyngor i'w Fab
- Gwas Fferm yn Gweld Ysbryd John Morris, Pen-crug
- Gŵr Bonheddig yn Cynorthwyo Dau Golier i Rannu Tair Sofren Felen







