Storïwyr

Mary Thomas (1905-83)
Bwlch-y-gwynt, Ffair-rhos, Ceredigion
Ganed: Cwm Gwyddyl (tyddyn), Ffair-rhos. Wedi byw yn yr ardal erioed. Gwraig tŷ ddiwylliedig, yn hoff iawn o hanesion a thraddodiadau lleol, yn meddu ar gyfoeth o iaith lafar, ac yn byrlymu wrth adrodd ei storïau niferus. Yr oedd William Thomas (WT), ei phriod, yn bresennol yn ystod y recordiad, yn mwynhau bob munud ac, yn aml, yn ymuno yn y sgwrs.
Storïau a gyflwynwyd:
- Clywed Canu Emyn am Dri o'r Gloch y Bore
- Enoc Ysguboriau a Phegi, ei 'Ferch Fach', yn Gweld Angladd ar yr Hewl
- Gŵr o Ysbyty Ystwyth yn Gweld 'Gole Corff'
- Hen Frwcsod Ffair-rhos
- Llanc Ifanc yn Dod Adre o Garu ac yn Gweld Ysbryd ei Bartner
- 'Mae Gen i Iâr', Medde Richards Cefen-gâr...
- 'Mi Weda'i Wrthot Ti Stori ...'
- Y Frân Fowr a'r Frân Fach yn Mynd i'r Coed i Gnoua







