Storïau
'Mae Gen i Iâr', Medde Richards Cefen-gâr...
Sain:
'Mae gen i iâr', medde Richards, Cefen-gâr.
'Nagôs ddim', medde Morgan, Tŷ Gwyn.
'Oes, yn wir', medde Piter, Pen-wern-hir.
'Mae wedi mynd i hedfan', medde Dic, Bron Berllan.
'Le câth hi fwyd?' ddwedodd Leisa, Llwyn Llwyd.
'Mae wedi mynd i ori', mynte Tomos, Bryn Coryn.
['I ble?' mynte Tomos, Pen-dre.
'I'r ffair', mynte Tomos, Llidiart Ffair.]
'Le câth hi wye?' mynte Jacob y Cloddie.
'Yn Tan-bryn', mynte Ianto Gwyn.
'Sawl cyw', mynte Leisa, Troed-rhiw.
'Giar a cheiliog', mynte Tomos, Cae Madog.
'Odyn nhw'n gryfion?' mynte Morgan, Dôl Ebolion.
'Eitha gwan', mynte Richard, Pen-lan. [Chwerthin]
[WT] Odd e'n gwitho'n dda, ond dodd e. Chi'n gwbod pwy odd e? William Jones - odd e'n cadw tafarn fan hyn, yn Pontrhydfendigaid, William Jones odd e. Ie, odd e'n gweitho'n dda, chi'n gwbod.
William Jones -
Red Lion, a mae 'i blant e'n byw fan hyn wedyn.
Ble ma'r Red Lion?
[WT] Tafarn fan hyn yn y Bont [Pontrhydfendigaid]. Wedi bod, ond mae e wedi marw ers blynydde. Ma mab iddo fe'n byw yn Bont, a merch iddo fe'n byw lan sha Tregaron. Ond fydde nhw'n gwbod dim am hwnna.
'Mae gen i iâr', medde Richards, Cefen-gar ... Nawr, y bobol 'ma -
Richard, Cefen-gâr, odd 'i dad e. Odd e'n byw yn Cefen-gâr. Billy Cefen-gâr odd 'i enw e, chwel - Billy, Cefen-gâr. Pan odd e'n grwt ifanc, odd e gatre yn Cefen-gâr ar y ffarm. A wedyn, mi wnâth y rhigwm yna am 'i dad. Ei dad e odd Rhisiart, Cefen-gâr ...
Tua pryd nâth o hwn, dech chi'n meddwl?
O, dim idea.
Cyn ych -
Cyn 'y nyddie i, amser odd e'n fachan ifanc.
Yn oes ych tad, ie?
Ie, yn oes 'y nhad. Ie, yn oes 'y nhad.







