Storïau
Gŵr o Ysbyty Ystwyth yn Gweld 'Gole Corff'
Sain:
Odd y corff, wel, y gannwyll gorff, yn mynd cyn yr angladd. Ôn i'n gweud wrtho chi am yn nhad-cu, fod e'n ofergoelus iawn yn gweld pethe felna. Odd e a'i ferch yn byw mewn tyddyn bach ddim ymhell, ac odd e yn gweld y gole corff 'ma bob amser. A rhyw ddiwrnod - rhyw nosweth - odd e allan ar bwys y tŷ â'r ferch. Ac odd e'n gweud wrth y ferch:
'Wyt ti'n gweld y gole corff 'na lawr fanna ar bwys y berth?'
'Nagw i', wedodd y ferch, 'wi'n gweld dim byd 'na'.
'Wyt ti'n gweld gole 'na yn fanna?' wedodd e,
'O, dim o gwbwl', wedodd hi.
'Wel, ma fe'n mynd lawr trw'r ca', wedodd e, 'a ma fe'n mynd trw'r bwlch', wedodd e, 'a ma fe'n mynd i'r tŷ 'co, fanco, Tŷ Newydd', wedodd e.
A feddyliwyd dim am y peth. Mewn cwpwl o ddwrnode ddôth merch y Tŷ Newydd 'ma i edrych amdanyn nhw, i gatre nhad-cu. Âth hi adre'r diwrnod 'ny. Erbyn iddi hi fynd adre odd 'i mam wedi câl y strôc a wedi cwmpo ar bwys y tân, ac odd hi wedi llosgi tipyn ar bwys y tân. Odd hi wedi marw yn fanny, wedi câl strôc ar bwys y tân. Ac mi redodd nôl i tŷ nhad-cu, a wedodd:
'Dowch, gyda fi ar un waith', wedodd hi, 'ma mam wedi marw.'
A mi âth y nhad-cu, a'm modryb nôl gydag e. A dyna fe, y gole
corff. ôn nhw'n mynd nôl gyda hi, y diwrnod hynny i'r tŷ.
Odd e wedi'u gweld nhw'n mynd cyn hynny. Odd e'n 'u gweld nhw, chwel. Odd e
wedi gweld y gole corff cyn hynny.
Thomas -
Thomas Jones
Tad ych mam -
Tad 'y mam, odd Tad-cu yn gweld y gole corff bob amser ...
Wel, sut oeddech chi'n teimlo pan oeddech chi'n clywed yr hanes ena?
O, wel, teimlo bod dŵr ôr yn mynd lawr trw nghefen i, pan wi'n clywed am yr ysbrydion 'ma.
Odd ych tad-cu wedi câl rhyw brofiade erill 'i hunan?
Odd e wedi câl amryw o brofiade, o ole corff. Fuodd Mam-gu farw amser odd yn mam yn wyth ôd, yn Ewyrth Dafydd yn whech ac Anti Charlotte yn fabi, yn ferch fach ifanc, wyth ar hugen ôd. Bu farw o'r dicâd, ôn nhw'n 'i alw e'r adeg hynny, odd dim gwella iddo fe. A'r nosweth cyn iddi hi farw odd e ar ymyl y gwely gyda hi, ac odd e'n gweld cannwyll fach a gole ar y gwely, a'i weld e'n mynd allan o'r tŷ. A wedyn nath 'i wraig e farw. Ac oedd e'n gweld gole corff 'i wraig yn mynd allan o'r tŷ. Ac odd hithe'n 'i weld e. Odd hi'n gweud:
'Wyt ti'n gweld y gole 'na yn mynd mâs trw'r drws, Tomos?' Odd hi'n gweld y gole ac ynte, ac odd hi'n marw'r dydd ar ôl hynny.
Wel, wel!
O, ôn nhw yn gweld e.







