Nodiadau, teipiau a motifau
Nodiadau'r stori 'Gwas Fferm yn Gweld Ysbryd John Morris, Pen-crug'
- Thomas Davies (1901-82)
- Tâp: AWC 2625. Recordiwyd 18.xi.1969.
Clywodd Thomas Davies yr hanes hwn gyntaf gan rieni John Harris, y gwas fferm:
'Odd hi'n amser rhyfel. Ôn i tua un ar bymtheg, deudwch, rhywbeth felly. A nawr, fues i'n galw gyda brawd John Harris ryw dri mis yn ôl, a fues i'n cael cinio gydag e 'na, Tom. A fuon yn sôn ambiti hyn. A wedodd:
'Ma hynna'n hollol wir. Ych chi'n iawn. Odi, odi, mae'n hollol wir.' '
Roedd yr hen ŵr yn cerdded o'r ffordd, mewn trw'r giât, i'r tŷ' pan welodd y gwas fferm ef. Roedd rhieni Thomas Davies yn 'meddwl bod e'n beth rhyfedd iawn. Ac ôn nhw'n 'i gredu e. Dodd dim dadl. Odd hwnna - odd e'n wir. Odd y bachgen wedi 'i weld e 'i hun. Odd e wedi'i weld e. Ac odd e'n fachgen allech chi ddibynnu arno.'
Teipiau
| ML 4002 (C) | Profiadau goruwchnaturiol. |
| ML 4031 (C) | Ysbrydion ar ffurf ddynol. |
| ML 4040 (C) | Rhagarwyddion angau. |
Motifau
| D 1825.7 | Profiad goruwchnaturiol o ragweld digwyddiad. |
| E 279 | Ysbryd ar ffurf ddynol yn cyniwair allan yn y nos. |
| E 421.1.1.1 | Ysbryd yn weladwy i un person yn unig. |
| E 425.2 | Ysbryd y marw ar ffurf dyn. |
| E 723.6 | Person yn gweld drychiolaeth ohono'i hun yn rhagarwydd o'i farwolaeth. |







