Nodiadau, teipiau a motifau
Nodiadau'r stori 'Enoc Ysguboriau a Phegi, ei 'Ferch Fach', yn Gweld Angladd ar yr Hewl'
Bu Mary Lloyd, mam Mary Thomas, farw yn 1933. Cyfeiriodd Mary Thomas at ei nai, William Morgan Rogers, Caerdydd, 'Wil Moc' i'w gyfeillion, yn arbennig oherwydd y gwyddai fod yr holwr yn ei adnabod.
Teipiau
| ML 4002 (C) | Profiadau goruwchnaturiol. |
| ML 4031 (C) c | Profiadau yn ymwneud ag ysbrydion. |
| ML 4040 (C) | Rhagarwyddion marwolaeth. |
| ML 4040 (C) c | Toili (rhith-angladd). |
Motifau
| D 1825.7 | Profiad goruwchnaturiol o ragweld digwyddiad. |
| D 1825. 7.1 | Person yn gweld gorymdaith rhith-angladd rywdro cyn i'r orymdaith ddigwydd. |
| E 332.2 | Person yn cyfarfod ag ysbryd ar y ffordd. |
| E 421.1.1 | Ysbryd yn weladwy i un person yn unig. |