Nodiadau, teipiau a motifau
Nodiadau'r stori 'Dafydd Morgan, Pant-y-craf, yn Cael ei Wasgu i'r Clawdd gan Angladd'
- Cassie Davies (1898-1988)
- Tâp: AWC 2914 - 15. Recordiwyd 9.vii.1970.
Bu dylanwad yr aelwyd ar fywyd Cassie Davies yn un pellgyrhaeddol. 'Wel, dwi'n siwr mai'r dylanwad mwya o ddigon ar 'y mywyd i ydi'r aelwyd gartre: yr hyn fydde ni'n glywed, yr hyn fydden ni'n 'i neud ... ffordd bydden ni'n difyrru'n hunen, yn difyrru'n gilydd. Sdim un dylwnad wedi bod yn ddyfnach na hwnnw yn y mywyd ... Mwy o ddiddordeb llenyddol odd gyda hi [Mary Davies, ei mam] ... Hi fydde'n dysgu ni adrodd. Ac odd gyda hi nifer dda iawn o bethe ar 'i chof ... posau a diarhebion a phenillion a hen gerddi. Roedd hi'n gyfoethog ar yr ochor yna. Roedd hi'n medru canu, cofiwch ... Ond yn nhad [John Davies] odd y canwr. Odd e yn gerddor, dim un amheuaeth ar y cwestiwn. Odd e'n gerddor o athrylith, dim dowt gen i ... Dw i 'di deud rywbryd mai yn y capel iddo fe rhywbeth rhwng dou emyn odd pregeth ac mai rhywbeth rhwng dwy steddfod odd cynhaea.'
Yr oedd Cassie Davies yn fawr ei gwerthfawrogiad hefyd o ddylanwad un athro yn Ysgol Uwchradd Tregaron, sef Samuel Morris Powell. Bu'n athro, 1903-45, ac yn Brifathro, 1937-45. Roedd yr ysgol wedi creu ymwybyddiaeth ynddi o 'berthyn i fro. Roedd 'na athro odd o leia hanner can mlynedd o flân 'i oes yn yr ysgol yma, Mr Powell ... Ac odd e'n cysylltu Cymraeg, Hanes a Daearyddiaeth - 'na'i byncie fe. Ac odd e'n gneud hanes lleol, hanes y fro. Nawr oedden ni'n gwbod y cwbwl am chwedle'r ardal 'ma, cylch Ystrad Meurig ac Ystrad-fflur, a Llanddewi a Llangeitho a Thregaron, Ffordd Rufeinig yn Llanio, ac yn y blaen.'
Clywodd Cassie Davies yr hanes am Dafydd Morgan yn gweld angladd pan oedd yn ferch ifanc ar yr aelwyd yng Nghae Tudur, Blaen Caron, gan ei thad, John Davies. Ganed ef yng Nghae Tudur a bu ei deulu yn byw yn yr ardal ers cenedlaethau. Mae'n debyg i'w thad glywed yr hanes gan gymydog. Yr oedd yn arfer y pryd hynny i gymdogion alw draw ac adrodd hanesion o'r fath: 'Felny bydde hi, yntife, rhywun, rhyw gymydog yn galw, a bydde'r sïn yn mynd falle am y dyn 'ma.' Defnyddiai ei thad y gair 'toili' ar gyfer y math hwn o weledigaeth, a dywed Cassie Davies y credai ef mewn toili a bod amser gweld y toili yn arwyddocaol: os gwelid toili yn gynnar yn y nos, byddai hyn yn arwydd o farwolaeth rhywun ifanc, ac roedd gweld toili yn hwyrach yn rhagargoel o farwolaeth rhywun hŷn. Wedi adrodd yr hanes hwn â Cassie Davies rhagddi i drafod rhai arwyddion eraill y credid eu bod yn rhagargoeli marwolaeth, megis y gannwyll gorff, cŵn yn udo, deryn corff, a chlywed cloch yn canu yn eich clust.
Teipiau
| ML 4002 (C) | Profiadau goruchwnaturiol. |
| ML 4031 (C) c | Profiadau yn ymwneud ag ysbrydion. |
| ML 4040 (C) | Rhagarwyddion marwolaeth. |
| ML 4040 (C) c | Toili (rhith angladd). |
Motifau
| D 1825.7 | Profiad goruwchnaturiol o ragweld digwyddiad. |
| 1825.7.1 | Person yn gweld gorymdaith rhith angladd rywdro cyn i'r orymdaith gychwyn. |
| E 332.2 | Person yn cwrdd ag ysbryd ar y ffordd. |
| E 421.1.1 | Ysbryd yn weladwy i un person yn unig. |







