Nodiadau, teipiau a motifau
Nodiadau'r stori 'Croesi'r Terfynau ar Ddydd Nadolig, a'r Teulu Bach wrth Ogof Pitar Graen'
- Ifan Gruffydd (1896-1971)
- Tâp: AWC 1635 Recordiwyd 14.ix.1976
Yn y fersiwn brintiedig dywed Ifan Gruffydd ei fod tua saith i wyth mlwydd oed pan welodd y teulu bach ar ddydd Nadolig gyntaf, a'r 'Ogof Fawr' yw'r enw a roddir ganddo ar yr ogof. Yn ei atgofion ar dâp, fodd bynnag, dyma'i sylw pan holwyd ef ymhellach am yr ogof:
'Ogof Pitar Graen 'dan ni'n 'i galw hi. Fuo 'na ryw hen fachgan o'r enw Pitar Graen, ne Peter Green, yn byw yno, dach chi'n gweld. Wel, odd 'rhen ogo wedi bod yn gyrchfan llawar o bobol tebyg i rheina dwi 'di sïn amdanyn nhw wrthoch chi. Amball i hen grwydryn, dach chi'n gweld, yn gneud 'i gartre yn yr ogo am ryw wythnos, dudwch, ne bythefnos, ne weithia am dymor Gaea. Codi allan i hel 'i damad hyd y wlad... ac amball un yn grefftwr yn medru mynd o gwmpas y ffermydd i ofyn oeddan nhw eishio hogi arfau, neu drwshio llestri – llestri coed dwi'n feddwl rŵan... Hen deiliwr, falla, ar grwydr, yntê. Wel, neb yn gwbod sut y bydda fo wedi mynd i'r stad honno... Llawer i hen deulu felly welish i hefyd, wedi gweld amsar gwell.'
A dyma sylw pellach gan Ifan Gruffydd am arwyddocâd 'un dydd a blwyddyn':
'Odd 'na rwbath mewn un dydd a blwyddyn, yntoes. Ers dalwm, fydda pob ryw beth pwysig iawn, dudwch rywun wedi gneud 'i wyllys, 'tê, rywun wedi gadal rwbath ichi, chaech chi mono fo am un dydd a blwyddyn, na chaech?'
Fel ateb i'r cwestiwn: 'Glywsoch chi rywun arall ar wahân i'ch mam yn sïn am y Tylwyth Teg', meddai Ifan Gruffydd:
'O, diar mi, do, yr hen bobol. 'Rhen bobol yn deud haneshion Tylwyth Teg, dach chi'n gweld, ar yr aelwyd, yntê. Welish i Mam yn mynd – fel bydda'r hen gymdogion amsar honno'n mynd i weld 'i gilydd gyda'r nosa, 'tê. Treulio dwy awr neu dair yn nhŷ cymydog rŵan. Ryw hannar dwshin wedi dŵad at 'i gilydd a finna, wrth gwrs, yn blentyn bach yn ista ar y stïl huarn wrth tân, felna. Stïl huarn a ffendar, 'tê, wrth gwrs, o flaen yr hen danna, yntoedd. A fydda'r hefal dân a'r procar melyn, melyn, fel aur bron. Deyn! odd gynnyn nhw waith llnau. Wol, ar y stïl huarn bydda'r plentyn bach i ista bob amsar, a'r hen deulu yn 'u cadeiria ac ar y setl ac yn y blaen, ac yn câl sgwrsus. Wol, er mwyn diddordeb i'r plentyn, weithia deud stori Tylwyth Teg wrtho fo, 'tê. A glywish i lawar stori Tylwyth Teg, 'u bod nhw wedi dal plentyn bach rywun ac wedi mynd â fo, ac wedi'i gâl o'n ïl pen un dydd a blwyddyn, felna o hyd...
Fyddech Mam yn adrodd rhai o'r straeon 'ma wrthoch chi?
O bydda, straeon tebyg. Bydda, tad.
'Dech chi'n cofio un ohonyn nhw?
Wel, na fedra i 'm cofio dim mwy na dwi 'di ddeud wrthach chi rŵan. Rwbath felna. Sïn am lle byddan nhw'n byw, 'ntê. Dan y ddaear ac yn yr ogofâu. Ac odd gynnyn nhw leoedd hardd, bendigedig, a phetha fyddan nhw 'di gasglu, dach chi'n gweld... yn ddodrefn, yn lestri, yn deganau ac yn ddarluniau. A bod nhw'n fedrus iawn ar lunio a gwneud peth 'u hunain hefyd. Mond ryw streuon felly. Wedyn oddna ryw ddirgelwch mawr ynglŷn â'r Tylwyth Teg.'
Adroddir rhagor o hanesion am y Tylwyth Teg gan Ifan Gruffydd ar dâp AWC 1636.
Mae'r eitem uchod yn enghraifft ddiddorol o naratif bersonol – 'stori wir' – yn cael ei hadrodd yn sgîl trafodaeth am y Tylwyth Teg.
Teipiau
| ML 4075 | Ymweld â gwlad y Tylwyth Teg. |
| ML 4077 (C) | Cael eich cadw yng ngwlad y Tylwyth Teg. |
| ML 5080 | Bwyd gan y Tylwyth Teg. |
| ML 6072 (C) | Profiadau yn ymwneud â'r Tylwyth Teg. |
Motifau
| C211.1 | Tabŵ: bwyta yng ngwlad y Tylwyth Teg. |
| F 211.3 | Tylwyth Teg yn byw o dan ddaear. |
| F 216 | Tylwyth Teg yn byw yn y goedwig. |
| F 217 | Mannau cyfarfod y Tylwyth Teg. |
| F 221.1 | Tŷ'r Tylwyth Teg yn diflannu gyda'r wawr. |
| F 222.1 | Palas tanddaearol y Tylwyth Teg. |
| F 234.2 | Tylwythen Deg ar ffurf person. |
| F 234.2.5 | Tylwythen Deg ar ffurf merch ifanc hardd. |
| F 239.4.1 | Tylwyth Teg yr un maint ag oedolion. |
| F 240 | Eiddo'r Tylwyth Teg. |
| F 241.8 | Dofednod gan y Tylwyth Teg. |
| F 243.3 | Tylwyth Teg yn bwyta cig. |
| F 310 | Tylwyth Teg a phlant meidrolion. |
| F 320 | Tylwyth Teg yn cario pobl i wlad hud a lledrith. |
| F 328 | Tylwyth Teg yn denu pobl i'w gwlad. |
| F 388 | Tylwyth Teg yn ymadael. |
| F 393.5 | Tylwyth Teg i'w gweld ar adegau neilltuol. |
| P 715 | Cenhedloedd penodedig. |
| P 715.2* | Cenhedloedd: Sipsiwn. |
| P 715.2.1* | Priodas gyda merch o Sipsi. |
| P 715.2.3* | Plant Sipsiwn. |
| T 110 | Priodas anarferol |
| Z 72.1 | Blwyddyn a diwrnod |







