Nodiadau, teipiau a motifau
Nodiadau'r stori 'Cosyn Melyn Bach yn Mynd i Nôl Burum i Mam'
- Gwilym Roberts
- Tâp: AWC 7496. Recordiwyd 31.viii.1989.
Clywodd Gwilym Roberts y stori hon droeon ar aelwyd Cae-gwyn, Dolwyddelan. Ei dad, Richard Owen Roberts, genedigol o Lanrhychwyn, ger Trefriw, sir Gaernarfon, oedd yn ei hadrodd, ac y mae'n bosibl i'w dad ei chlywed gan ei dad yntau, brodor o'r un ardal. 'Ôn i'n hyna o bump, yndê, a wedyn odd dad yn 'i deud hi wrth Gwen, yn chwaer, a Jean [a finne].' Ambell dro ar nos Sul, ond, gan amlaf, ar nos Sadwrn: 'Odd isho mynd i Ysgol Sul, yndê, ar ddydd Sul, a wedyn bydde isho molchi, mewn twb sinc, dim bath radeg honno. Pawb yn 'i dyrn ym mynd i fewn i'r twb sinc. A wedyn eiste yn un rhes ar y soffa, yndê, cyn câl y gr_el yma, a lwmp o fenyn i fewn ynddo fo. Ôn ni'n barod i fynd i'n gwlâu rwan. Odd dad yn deud y stori "Cosyn Melyn Bach" wrtho ni. Bydda … [Roedd o'n] eistedd ar y gader yn gwynebu ni … A wedyn roedd o'n arfer canu: "Mae Iesu Grist o'n hochor ni, / Fe gollodd Ef ei waed yn lli …" cyn inni fynd i'n gwlâu.'
Adroddir y stori deirgwaith ar y tâp gan Gwilym Roberts, gyda mân wahaniaethau yn unig. Testun o'r drydedd fersiwn a gynhwysir yma. Yn y fersiwn hon yn unig y nodir i'r Cosyn Melyn Bach fynd 'ar daith go bell' i nôl burum. Er i Gwilym Roberts adrodd y stori deirgwaith ar y tâp, cyfaddefai nad oedd bellach yn cofio'n berffaith union rediad y stori, yn arbennig yr agoriad. Yn yr adran sy'n sôn am y ddau ddyn yn torri gwair a thorri clawdd fe welir, felly (o gymharu'r fersiwn ysgrifenedig a'r fersiwn lafar), i rai geiriau gael eu hychwanegu ac i drefn un frawddeg gael ei newid.
Teipiau
| AT 2030 | Yr hen wraig a'i mochyn. |
Motifau
| B 210 | Anifeiliaid sy'n siarad. |
| B 210.1 | Person yn cael ei ddychryn gan anifeiliaid sy'n ymateb yn llwyddiannus i'w sylwadau. |
| B 211.2.2 | Llew sy'n siarad. |
| D 1030 | Bwyd hudol. |
| D 1036.1.59 | Caws hudol. |
| D 1610 | Gwrthrych hudol sy'n llefaru. |
| Z 10 | Strwythur fformiwlaig i storiau gwerin. |
| Z 18 | Ymddiddanion fformiwlaig. |
| Z 41 | Yr hen wraig a'i mochyn. |







