Nodiadau, teipiau a motifau
Nodiadau'r stori 'Robin y Llongwr a Gwraig Tafarn y Brown Cow'
Roedd Lewis T Evans wedi clywed y stori hon gan Lewis Evans, ei ewythr dall,
yn Hafod Llan Isa, Pentrellyncymer, oddeutu 1891-2. Roedd yn bosibl fod ei ewythr
wedi ei chlywed gan hen ŵr o'r enw Dafydd Llwyd, Elusendai, Cerrigydrudion,
a fu'n gweithio ac yn aros yn Hafod Llan Isa cyn dyddiau Lewis T Evans. Credai
fod ei ewythr wedi clywed nifer o storïau gan Dafydd Llwyd: 'Gin hwnnw
odd o 'di câl rhan fwya, 'dw i'n barnu.' Ni wyddai'n union faint o storïau
yr oedd ei ewythr wedi eu clywed gan Dafydd Llwyd, ond cofiai sylw ei ewythr:
'pan fydde fo 'di deud ryw ambell i stori, 'ntê: "Dyne stori Dei
Llwyd", bedde fe.'
Teipiau
| AT 1840 B | Talu gyda thincial arian. |
Motifau
| J 1172.2 | Talu gyda thincial arian. Hawlio tâl gan ddyn am iddo fwynhau arogl cig yn rhostio. |