Nodiadau, teipiau a motifau
Nodiadau'r stori 'Clywed Canu Emyn am Dri o'r Gloch y Bore'
- Mary Thomas (1905-83)
- Tâp: AWC 6451. Recordiwyd 4.v.1979.
Clywodd Mary Thomas yr hanes hwn 'lawer o weithe' gan Rhys Morgan, yn ei chartref yng Nghwm Gwyddyl, pan oedd yn blentyn. Roedd Rhys Morgan yn byw ar dyddyn o'r enw Glan Pond yn ardal Ffair-rhos, ar y ffordd i Lynnoedd Teifi. Roedd yn 'cadw tair buwch a cwpwl o ddefed' ac yn 'gwitho'n y Gwaith Mwyn'. Dyn ifanc ydoedd pan glywodd yr emyn yn cael ei ganu. Bu farw 'dros dri ugen a deg, siŵr o fod', tua 'phymtheg mlynedd, falle' yn ôl, adeg y recordiad. Roedd yn gymeriad hoffus, ac meddai Mary Thomas amdano: 'Odd e'n ddyn gole iawn yn y Beibl. Odd e'n athro Ysgol Sul i fi [yn Ffair-rhos].'
Adroddodd Mary Thomas hanes y profiad a gafodd Rhys Morgan gydag argyhoeddiad a didwylledd, mewn arddull afieithus. Er ei bod hi a'i phriod, William Thomas, yn credu'n gydwybodol bod y profiad a gafodd Rhys Morgan yn wir, roedd y ddau yn mwynhau cyflwyno'r hanes hwn gymaint (a nifer o hanesion eraill tebyg iddo) fel eu bod ar adegau yn methu â pheidio chwerthin, yn arbennig ar derfyn yr hanes ac fel ymateb i sylw gan yr holwr neu awgrym o syndod ar ei wyneb.
Gweler hefyd yr eitemau a ganlyn o eiddo Mary Thomas yn ymwneud â'r goruwchnaturiol:
- Gŵr o Ysbyty Ystwyth yn Gweld 'Gole Corff'.
- Llanc Ifanc yn Dod Adre o Garu ac yn Gweld Ysbryd ei Bartner.
- Enoc Ysguborïau a Phegi, ei 'Ferch Fach', yn Gweld Angladd ar yr Hewl.
Teipiau
| ML 4002 (C) | Profiadau goruwchnaturiol. |
| ML 4040 (C) | Rhagarwyddion marwolaeth. |
| ML 4040 (C) (h) | Clywed sŵn canu angylaidd. |
Motifau
| D 1827.1 | Clywed seiniau hudol sy'n rhagarwydd o farwolaeth. |
| D 1827.1.2 | Seiniau a glywir cyn marwolaeth. Yr un seiniau yn cael eu clywed eto ar adeg marwolaeth neu angladd. |
| D 1827.1.4 | Clywed seiniau o bell ar adeg marwolaeth. |
| F 966 | Lleisiau o'r nefoedd neu'r awyr. |