Nodiadau, teipiau a motifau
Nodiadau'r stori 'Gŵr o Ysbyty Ystwyth yn Gweld 'Gole Corff''
- Mary Thomas (1905-83)
- Tâp: AWC 6451. Recordiwyd 4.v.1979.
Adroddodd Mary Thomas yr hanesion uchod fel rhan o sgwrs rhyngddi hi, William Thomas, ei phriod, a'r holwr, am ragarwyddion angau yn ardal Ffair-rhos a'r cylch. Y mae'r hanesion yn dilyn yr hanesyn: 'Gweld angladd ar yr Hewl o Bontrhydfendigaid i Ystrad-fflur' a'r sylwadau a ganlyn gan William Thomas a Mary Thomas am goel arbennig ynglŷn â'r gannwyll gorff, neu 'ole corff', fel y galwent hwy y rhagarwydd.
WT: Ond, ch'mbod, odd gole corff 'da nhw ers blynydde nôl yn mynd
ar hyd 'rhewl, ôch chi'n gweld gole bach yn dod, chwel. A hen Ddoctor
Rowlands yn byw yn Bont 'ma, chwel. A gwedwch chi bod e yn gweld gole'n dod,
odd e'n dod lawr o gefen 'i geffyl - odd e amser 'ny, i chi'n gwbod, yn
mynd lawr ar hyd y wlad 'ma at bobol sâl, a rhywbeth felny, â cyffyle
ôn nhw'n mynd - beth odd e'n gwneud, tynnu'i hat, chwel, os
gwele fe bwll o ddŵr, rhoi'i hat ar bwys y dŵr. Odd e'n nabod
y dyn odd yn mynd i farw, wrth bod y gole'n mynd trw'r hat.
MT: Os fyddech chi'n hapno gweld gole corff a bo chi'n paso trwy ddŵr
ar yr hewl, fydde chi'n sbio yn y dŵr pan bydde'r angladd yn mynd trw'r
dŵr ôch chi'n nabod y person fydde yn y coffin [chwerthin].
WT: Gobeithio cysgith e heno! Gobeithio cysgwch chi heno [gan gyfeirio at yr
holwr a chwerthin]!
MT: O, dier annwl!
RG: ... A pwy oedd yn dweud yr hanes yma wrthoch chi?
WT: Wel, clywed yn mam-gu yn gweud. Odd yn mam-gu i yn whâr i'w thad hi
[MT].
MT: Clywed yr hen bobol yn siarad, chwel, yr hen bobol yn trafod, i chi'n gweld.
Yr hen fobol odd â'r hanesion 'na i gyd.
RG: Ac odd hi'n gred, bod modd gweld pwy fydde'n marw os ôch chi'n
edrych yn y dŵr?
WT: Wel, ôch chi'n rhoi'ch hat fan hyn ar bwys y dŵr, cesech
chi weld y gole, a wedyn fe nabyddech chi'r dyn yn yr hat, i chi'n gwbod, wrth
bod y gole'n paso. 'Na beth ôn nhw'n weud.
Wedi i Mary Thomas adrodd am brofiadau ei thad-cu, Thomas Jones, Ysbyty Ystwyth, dyma ei hateb i'r cwestiwn: 'Pa fath ole oedd hwn?' 'Wel, gallwn i feddwl bod e'n amrywio yn 'i seis yn ôl oedran y dyn. Wi'n credu mai cannwyll go fach os bydde plentyn; odd hi'n fwy o seis os bydde dyn mewn ôd.' A dyma sylwadau pellach ganddi am gredöau ei thad-cu a'i ddylanwad arni hithau (tâp AWC 6450).
Odd e'n gymeriad arbennig iawn ... yn gymeriad ar 'i ben 'i hunan. Odd e'n
gweld ysbryd a gole corff ymhob man.
Ydech chi'n credu mewn pethe felne?
Wel, odw.
Ydech chi?
Odw, wi yn credu, waeth odd yn nhad-cu yn credu ac odd e'n 'u gweld nhw, ac
un peth dwi'n siŵr nag odd ddim o nhad-cu yn gweud anwiredd. Odd yn
nhad-cu yn gweud y gwir.
Am hanesion eraill a adroddwyd gan Mary Thomas yn ymwneud â phrofiadau goruwchnaturiol, gw. eitemau:
- Clywed Canu Emyn am Dri o'r Gloch y Bore.
- Llanc Ifanc yn Dod Adre o Garu ac yn Gweld Ysbryd ei Bartner.
- Enoc Ysguboriau a Phegi, ei 'Ferch Fach', yn Gweld Angladd ar yr Hewl.
Teipiau
| ML 4002 (C) | Profiadau goruwchnaturiol. |
| ML 4040 (C) | Rhagarwyddion angau. |
| ML 4040 (C) (b) | Y gannwyll gorff. |
| ML 4040 (C) (c) | Y toili (angladd ymrithiol). |
Motifau
| D 1825. 7 | Profiad goruwchnaturiol o ragweld digwyddiad. |
| E 272 | Ysbrydion ffyrdd. |
| E 421. 1.1 | Ysbryd yn weladwy i un person yn unig. |
| E 530.1 | Goleuadau goruwchnaturiol. |
| E 530. 1.6 | Goleuadau goruwchnaturiol yn rhagarwydd o farwolaeth. |
| E 723.2 | Gweld drychiolaeth ohonoch eich hun (cannwyll gorff) yn rhagarwydd fod y person hwnnw yn mynd i farw'n fuan. |







