Nodiadau, teipiau a motifau
Nodiadau'r stori 'Gŵr Bonheddig yn Cynorthwyo Dau Golier i Rannu Tair Sofren Felen'
- Thomas Davies (1901-82)
- Tâp: AWC 2625. Recordiwyd 18.xi.1969.
Clywodd Thomas Davies y stori hon pan oedd tua deunaw oed gan Ben Griffiths, amaethwr, Waunfawr, Pen-boyr.
'Ôn i'n mynd i'r eglwys, i chi'n gweld, ac odd dwy filltir o ffordd 'da ni. Ac odd y bobol odd yn byw ddim ymhell o'r eglws fysen yn gofyn i chi fynd fyny i ginio 'na, fel odd yn beth cyffredin iawn. Ac at y Griffiths 'ma ês i y dwyrnod 'ny. A wy'n cofio iddo ddweud y stori wrtho i wrth fynd adre.'
Teipiau
| AT 1539 A (C) | Storïau am glyfrwch a diniweidrwydd. |
Motifau
| J 2030 | Anhawster anhygoel i gyfrif. |
| K 171 | Rhannu enillion drwy dwyll. |
| X 370 | Storïau digri yn ymwneud ag ysgolheigion. |







