Cyflwyniad
Adeiladau Hanesyddol yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Sefydlwyd Amgueddfa Werin Cymru: Sain Ffagan ym 1947. Roedd yn rhan o fudiad a ysbrydolwyd gan waith a gychwynnwyd yn Sgandinafia i gasglu a gwarchod enghreifftiau o ffordd o fyw, wledig yn bennaf, a oedd ar fin diflannu. Roedd technoleg, diwydiant a threfoli yn cael eu cyfrif yn fygythiadau difrifol i ffordd o fyw a oedd wedi para ers yr Oesoedd Canol, gan ddibynnu ar y tir a'r môr.
Yng Nghymru, roedd pwyslais ar achub, ailadeiladu ac arddangos cartrefi a gweithleoedd pobl gyffredin, o wahanol gefndiroedd cymdeithasol a gwahanol gyfnodau, yn ganolog i ddatblygiad Sain Ffagan.
Yr adeiladau cyntaf i'w symud i Sain Ffagan oedd Stryd Lydan — ysgubor ffrâm bren o Lannerch Banna (1950) — ffermdai Abernodwydd (1951), Kennixton (1952), Hendre'r-ywydd Uchaf (1954), a Chilewent (1955), ac, i gynrychioli'r elfen ddiwylliannol, Capel yr Undodiaid, Pen-rhiw, a godwyd yn y ddeunawfed ganrif yn Dre-fach Felindre (1953).
Adeiladau gwledig oedd y rhain i gyd. Yn wir, gellir dweud mai adeiladau gwledig oedd yr 19 adeilad cyntaf a ailgodwyd yn yr Amgueddfa. Yr unig adeilad a ddaeth o dref oedd y talwrn ymladd ceiliogod o dref farchnad Dinbych ond roedd hwnnw'n cynrychioli gweithgaredd hamdden a oedd yr un mor boblogaidd yng nghefn gwlad ag yr oedd mewn pentrefi a threfi. Roedd hyd yn oed y tolldy, o Benparcau ar gyrion deheuol Aberystwyth, yn nodweddiadol o ugeiniau o adeiladau tebyg, bron bob un ohonynt wedi'u codi yng nghefn gwlad.
Am dros dri degawd, dyma oedd y patrwm a ddilynwyd wrth ddewis adeiladau. Roedd yr holl adeiladau a ddewiswyd, ac eithrio'r tai, yn adeiladau amaethyddol, yn weithdai crefftwyr neu'n ddiwydiannau bychain gwledig yn hytrach na rhai trefol. Mae'n siŵr mai'r tanerdy oedd y peth agosaf at safle diwydiannol ond, hyd yn oed yma, roedd y peiriant malu rhisgl yn cael ei yrru gan olwyn ddŵr ac, er ei fod yn dod o dref farchnad fechan Rhaeadr Gwy, roedd y safle y tu allan i'r dref ei hunan.
Ar ôl 1980, cafwyd newid bwriadol a sylfaenol yn y pwyslais a dechreuwyd dewis adeiladau oedd yn rhoi darlun mwy crwn o fywyd Cymru. Er enghraifft, ychwanegwyd ysgol (1981), becws (1982), gweithdy'r teiliwr (1988) a swyddfa bost (1992). Roedd adeiladau fel y rhain, rhai'n fwy a rhai'n llai, i'w cael yn y rhan fwyaf o gymunedau — gwledig, trefol neu ddiwydiannol.
Cafwyd datblygiad arloesol ym 1987 pan ailgodwyd rhes o chwe thŷ o Ryd-y-car, Merthyr Tudful. Er bod y rhain yn ein hatgoffa o'r traddodiad gwerinol, maent eto yn ddiwydiannol, os nad yn drefol, o ran eu harddull, eu natur a'u cymeriad. Dilynwyd y rhain ym 1991 gan Siop Gwalia a godwyd i wasanaethu cymdeithas lofaol yng Nghwm Ogwr. Pan ychwanegwyd Sefydliad y Gweithwyr Oakdale (1995), cafwyd golwg fwy cyflawn ar agwedd arall ar fywyd y cymoedd, sef y defnydd o gyfleusterau addysg a hamdden.
Felly, er 1980, bu'r pwyslais ar ddehongliad mwy realistig, cynrychioliadol a pherthnasol o fywyd pobl ym mhob rhan o Gymru yn y gorffennol ac yn awr.







