Trosolwg
[delwedd: Golwg ar du allan y Tanerdy ]
Golwg ar du allan y Tanerdy yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
[delwedd: Golwg ar du allan y Tanerdy ]
Golwg ar du allan y Tanerdy yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
Tua diwedd y 18fed ganrif y codwyd y tanerdy hwn o Raeadr Gwy. Yno, roedd crwyn anifeiliaid yn cael eu troi'n lledr. Hwn oedd y tanerdy traddodiadol olaf i weithio yng Nghymru ac roedd yn arbenigo mewn cynhyrchu lledr trwm ar gyfer esgidiau a thaclau ceffylau.
Rhisgl derw oedd y brif elfen a ddefnyddid. Byddai'n cael ei storio a'i falu'n bowdr yn yr ysgubor fawr: mae'r olwyn ddŵr wreiddiol i'w gweld ar dalcen y felin risgl.
Byddai'r crwyn yn cael eu mwydo mewn pylla a oedd yn cynnwys cymysgedd o ddŵr a rhisgl, gyda mwy o risgl yn cael ei ychwanegu i'w wneud yn gryfach, cyn eu sgwrio ar y bwrdd carreg. Yna, byddent yn cael eu sychu a'u rholio'n fflat. Byddai'r broses gyfan yn cymryd deunaw mis. Tynnwyd y tanerdy i lawr a'i symud i'r Amgueddfa ym 1962.
[delwedd: Tannery Map Plot]

