Trosolwg
[delwedd: Y Prefab yn Sain Ffagan]
Y Prefab yn Sain Ffagan, 2010
Roedd tai parod, neu pre-fabs fel y caent eu galw, yn ffordd o ddarparu llawer iawn o dai yn sydyn ar ôl yr Ail Ryfel Byd, yn lle rhai o'r rhai a fomiwyd. Roedd dwy ystafell wely ym mhob tŷ, gyda wardrobs cynwysedig, ystafell fyw, cyntedd, cegin osod ac ystafell ymolchi. Roedd ynddo dapiau dŵr poeth a dŵr oer, stof (nwy neu drydan), 'copor' golchi dillad, ac oergell wedi'i gosod.
Gwnaed cyfanswm o dros 153,000 o pre-fabs, yn ogystal â thai parod dau lawr. Roedd pedair fersiwn wahanol, pob un yn defnyddio'r un cynllun fwy neu lai ond wedi'u gwneud o ddefnyddiau gwahanol. Roedd y byngalos alwminiwm, fel yr un sydd yn yr Amgueddfa (Math B2), yn cael eu gwneud mewn ffatrïoedd a fu'n cynhyrchu awyrennau yn ystod y Rhyfel. Roedd hwn yn un o ddeugain o dai parod o'r fath a godwyd yn Llandinam Crescent ym 1948. Tua deng mlynedd roedd disgwyl iddynt bara ac felly ychydig iawn sydd ar ôl heddiw. Mae'n bosib mai dyma'r unig dŷ pre-fab alwminiwm sydd ar ôl ym Mhrydain.
Rhoddwyd y tŷ hwn i'r Amgueddfa ym 1998 ac mae wedi'i ddodrefnu fel y byddai ym 1950.
[delwedd: Prefab Map Plot]


[delwedd: Byngalo alwminiwm Teip B2, a adeiladwyd yn 1947]
Erbyn canol y 1930au, roedd Prydain yn dechrau dod dros effeithiau'r Streic Gyffredinol (1926) a blynyddoedd y Dirwasgiad (1929-33). Un arwydd o'r ffyniant a'r hyder newydd yma oedd y nifer o adeiladau newydd a oedd yn cael eu hadeiladu.