Ail-grewyd tri o gytiau crynion wedi'u seilio ar olion adeiladau o'r Oes Haearn lle bu archaeolegwyr yn cloddio. Mae'r tŷ â'r waliau cerrig wedi'i seilio ar dŷ a ganfuwyd yn Conderton, Swydd Warwick; y tŷ plethwaith cyntaf wedi'i seilio ar un o fryngaer Moel-y-gaer, Clwyd; a'r tŷ mawr sydd â physt yn cynnal y to wedi'i seilio ar olion o Foel-y-gerddi, Gwynedd.
Toeau gwellt sydd i'r tri ac mae palisâd a ffos yn amddiffyn y safle.
Y tu mewn i'r tai, gwelir gwyddiau ar gyfer gwehyddu, pentanau haearn, breuanau ŷd ac offer arall ar gyfer bywyd bob dydd yn y cyfnod.

