Trosolwg
[delwedd: Golwg ar du allan Sefydliad Gweithwyr Oakdale ]
Golwg ar du allan Sefydliad Gweithwyr Oakdale yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
[delwedd: Golwg ar du allan Sefydliad Gweithwyr Oakdale ]
Golwg ar du allan Sefydliad Gweithwyr Oakdale yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan
Codwyd Institiwt y Gweithwyr Oakdale ym 1917 i fod yn ganolfan ar gyfer bywyd cymdeithasol, addysgol a diwylliannol y gymuned lofaol oedd newydd ddatblygu yno. Cafwyd benthyciad gan y Tredegar Iron and Coal Company i dalu am godi'r adeilad a bu'r glowyr yn ei ad-dalu am rai blynyddoedd.
Yn yr adeilad, ceir Llyfrgell, Darllenfa ac Ystafell Bwyllgor ar y llawr isaf, a dwy swyddfa fechan ar gyfer Ysgrifennydd a Rheolwr yr Institiwt. Mae Neuadd Gyngerdd, a ddaliai dros 200 o bobl yn wreiddiol, yn llenwi'r llawr cyntaf i gyd. Roedd Ystafell Filiards ar wahân ond yn gysylltiedig mewn adeilad to fflat y tu ôl i'r Institiwt ac adeiladwyd neuadd gyhoeddus fwy o faint ar ei phen ym 1927. Yn ddiweddarach, addaswyd hon i'w defnyddio fel sinema.
Caewyd yr Institiwt ym 1987 ac fe dynnwyd yr adeilad i lawr a'i symud i Sain Ffagan ym 1989. Roedd y sinema'n rhy fawr ar gyfer y safle ac ni chafodd ei symud.
[delwedd: Oakdale Map Plot]
Animeiddiad gan y cwmni Cinetig ar y cyd â disgyblion o ddwy ysgol yn Ne Cymru. Mae'n dathlu rôl hollbwysig Institiwt y Gweithwyr Oakdale ym mywyd y gymuned lofaol honno. Mae'n tynnu ar dystiolaeth lafar o archifau Sain Ffagan.