Siop gyffredinol nodweddiadol o gymoedd diwydiannol y de. Mae tair rhan i'r siop, ar ddau lawr, yn cynnwys adrannau nwyddau haearn a bwydydd. Ym 1880, datblygodd William Llewellyn ei fusnes groser trwy adeiladu'r siop hon. Dim ond y rhan ganol oedd yn yr adeilad gwreiddiol, ac roedd y storfa a thŷ William Llewellyn ar y naill ochr a'r llall. Cwmni Parnalls of Bristol a ddaeth i osod y silffoedd mahogani, y cownteri a'r biniau ac, erbyn 1912, roedd y siop wedi ehangu i lawr isaf y tŷ hefyd ac roedden nhw'n gwerthu dillad. Cyn hir, roedd y siop wedi ehangu eto i gynnwys llawr cyntaf y tŷ a llawr isaf y tri thŷ nesaf. Erbyn 1916, roedd Siop Gwalia yn cynnwys becws ac adrannau nwyddau haearn, groser, dillad dynion, bwyd anifeiliaid a fferyllfa. Roedd aelodau o'r staff yn cysgu yn yr atigau ac yn cael 8 swllt (40c) o gyflog yr wythnos.
Bu farw'r Henadur William Llewellyn ym 1924 ac mae'r siop yn ymddangos heddiw fel y byddai tua diwedd y 1920au pan oedd ei feibion yn ei rhedeg. Caewyd hi ym 1973 a'i symud i'r Amgueddfa ym 1988.


Rev. Jones describing how his grandparents came to Ogmore Vale in the late 19th century to start a grocery business:
Gwalia Stores was ideally located across the road from the railway station:
Oral testimony describing Gorwyl House, Ogmore Vale by William Llewellyn, owner of Gwalia Stores:
Mrs Iris Lewis describes the wonderful smells of the grocery in Gwalia Stores:
Parch. Jones yn disgrifio sut yr aeth ei dad-cu a'i fam-gu i Gwm Ogwr ddiwedd y 19eg ganrif i ddechrau busnes groser:
Mr Arthur Tuck o Gwm Ogwr yn disgrifio lleoliad delfrydol Siop y Gwalia gyferbyn â'r orsaf drenau:
Mrs Iris Lewis yn disgrifio aroglau hyfryd siop groser Gwalia Stores: