Eich basged
[delwedd: Casgliad Llwyau Caru 8]
[delwedd: Llwyau caru Cymraeg]
[delwedd: Llwyau caru Cymraeg]
Casgliad Llwyau Caru Sain Ffagan - 1
Pris: £48
Argaeledd: Mewn stoc
Cerfiwyd y casgliad gwych hwn o lwyau caru Cymreig â llaw gan Sion Llewellyn. Mae pob un wedi'i seilio ar lwy garu o gasgliad Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.
SION LLEWELLYN
Cerfiwr llwyau caru o’r radd flaenaf yw Sion Llewellyn. Fe’i ganwyd yn Nyffryn Ogwr, Pen-y-bont a dechreuodd gerfio llwyau caru yn ddeuddeg oed. Er iddo hyfforddi ei hun yn y grefft bron yn gyfan gwbl mae ganddo gymhwyster saer dodrefn City and Guilds, ac ym 1979 enillodd wobr grefft yr Eisteddfod Genedlaethol am ddylunio a chreu ei delyn ei hun. Sefydlodd Sion ei gwmni llwyau caru ym 1997 ac mae’n frwd dros ddefnyddio symbolau a dulliau cerfio traddodiadol yn yr arteffactau y bydd yn eu cerfio, pob un wedi’u creu o un darn pren. Gyda amlygu gwreiddiau gwerinol y grefft yn un o’i nodau pennaf, mae’n ymbellhau ei hun o’r arfer diweddar i fasnacheiddio’r grefft.

