Blanced wlân Gymreig
Pris: O £85
Argaeledd: Mewn stoc
Gwehyddwyd y flanced hon yn Amgueddfa Wlân Cymru ar Wŷdd Dobcross 110’’. Cai’r gŵydd hwn ei ddefnyddio ym Melin Cambrian ar ddechrau’r 20fed ganrif ynghyd â 30 gwŷdd arall. Mae’r patrwm ar y flanced o wlân ŵyn yn un traddodiadol a ysbrydolwyd gan hen flancedi o’r Casgliad Cenedlaethol yn yr Amgueddfa.
Sengl - 70 x 92in
Dwbl - 90 x 92in
Brenin - 102 x 92in








